Doesn't suit? No problem! You can return within 30 days
You won't go wrong with a gift voucher. The gift recipient can choose anything from our offer.
Mae'r gyfrol arloesol hon yn cyflawni dau amcan. Yn gyntaf, mae'n cynnwys, am y tro cyntaf, hanes lleiafrifoedd ethnig oddi mewn i'r diwylliant Cymraeg, a hynny o ddyddiau Macsen Wledig hyd heddiw. Yn ail, mae'n dehongli amlethnigrwydd o safbwynt Cymraeg yn hytrach na Saesneg, sy'n arwain at y cwestiwn, 'Pwy yw'r Cymry?' Yn ogystal r hanes cyffredinol, ceir penodau am Gymry du, y Sipsiwn Cymreig, Gwyddelod ac Iddewon yng Nghymru, amlethnigrwydd cefn gwlad, a'r Cymry fel lleiafrif ethnig yn Lloegr. O ran ei syniadaeth, trafodir pethau mor amrywiol pherthynas y Cymry threfedigaethedd a chaethwasiaeth, hybridedd grwpiau lleiafrifol, Saeson Cymraeg, a chenedlaetholdeb a hil. Wrth gloi, gofynnir ai'r Cymry yw pobl frodorol Ynys Prydain.